Gofal iechyd

Mae gan y DU drefniadau â rhai gwledydd i roi lefel benodol o ofal iechyd i wladolion y gwledydd hynny pan fyddan nhw yn y DU. Yn aml, dim ond gofal meddygol mewn argyfwng sy’n gallu cael ei roi yn hyn o beth. Dylech wastad sicrhau bod gennych chi’r yswiriant iawn ar gyfer holl gyfnod eich ymweliad â’r DU.

Efallai na fydd y trefniadau gofal iechyd a restrir isod yn berthnasol i rai costau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, ac nid ydyn nhw’n cymryd lle yswiriant gofal iechyd. Os byddwch chi’n teithio o wlad sydd heb ei chynnwys yn y trefniadau isod, yna rhaid i’ch yswiriant gofal iechyd allu darparu ar eich cyfer mewn achosion pan fydd costau gofal iechyd sydd heb eu rhagweld.

Dinasyddion yr UE ac EFTA

 

Mae gan y DU a’r UE drefniant ar gyfer darpariaeth gofal iechyd dwyochrog. Bydd eich Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) yn parhau’n ddilys yn y DU. Efallai na fydd hyn yn darparu ar gyfer dinasyddion y Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd (EFTA). Ymhlith gwledydd EFTA, mae Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a’r Swistir. Darllenwch mwy am ddefnyddio gwasanaethau goffal iechyd fel ymwelwyr â’r DU o'r UE a gwledydd EFTA.

 

Dinasyddion o’r tu allan i’r UE

 

Mae gan y DU drefniadau gofal iechyd dwyochrog â nifer o wledydd y tu allan i’r UE. Bydd cyfyngiadau yn berthnasol i bob trefniant unigol, a’r rheini’n benodol i’r wlad dan sylw.
Darllenwch mwy am ba driniaeth feddygol y gall pobl o’r tu allan i’r UE a’r tu allan i EFTA ddisgwyl ei chael o dan y trefniadau gofal iechyd dwyochrog fan hyn.

 

 

Covid-19

Mae Covid-19 wedi tarfu ar sut rydyn ni’n gweithio yn lleol ac yn fyd-eang. Mae modd gosod cyfyngiadau Covid-19 yn gyflym, ynghyd â’u llacio’n gyflym, a dylech chi fonitro’r sefyllfa wrth gynllunio, a pharhau i fonitro’n rheolaidd tan y dyddiad pan fyddwch chi’n teithio. Wrth gynllunio eich ymweliad creadigol â’r DU, dylech roi amser ychwanegol ac arian wrth gefn ar gyfer pethau na chafodd eu rhagweld ac a achosir gan Covid-19. Er enghraifft, gall profion Covid-19 fod yn ddrud, a phe baech chi’n cael eich heintio gan Covid-19, efallai y bydd angen i chi fod dan gwarantin, a gallai hynny olygu costau ychwanegol sylweddol. Os ydych chi’n teithio i’r DU fel rhan o sefydliad, neu os ydych chi’n sefydliad sy’n cynnal artistiaid yn y DU, gallai fod yn ddefnyddiol cyflwyno polisi Covid-19 a fydd yn berthnasol i bawb yn y parti sy’n teithio. Dylech fod yn ymwybodol y gallai fod gan gwmnïau awyrennau a chwmnïau teithio eraill eu cyfyngiadau eu hunain y mae’n rhaid cydymffurfio â nhw. Dylech fod yn ymwybodol hefyd o unrhyw reoliadau Covid-19 a allai fodoli yn y wlad y byddwch yn dychwelyd iddi, neu’r wlad y byddwch yn ymweld â hi ar ôl i chi fod yn y DU.

Mae rhywfaint o ganllawiau am Covid-19 wedi cael eu datganoli ym mhedair gwlad y DU: Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Dylech sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r rheoliadau a’r cyfyngiadau yn y wlad y byddwch yn ei chyrraedd, ac yn unrhyw wledydd eraill y DU rydych chi’n bwriadu ymweld â nhw. I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i’r tudalennau perthnasol isod. Cofiwch fynd i’r tudalennau hyn yn rheolaidd gan y gall y rheolau newid yn sydyn.