Pwy ydym ni

Rydyn ni'n bartneriaeth o aelodau o bob un o Gynghorau Celfyddydau'r DU:
Arts Council England
Arts Council of Northern Ireland
Creative Scotland
Chyngor Celfyddydau Cymru  / Celfyddydau Rhyngwladol Cymru sy'n arwain y gwaith.

Rydyn ni hefyd yn rhan o rwydwaith o wybodfannau symudedd ledled Ewrop a’r UDA, ac yn aelod o rwydwaith symudedd On The Move. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r sefydliadau arbenigol hyn yn ogystal â’n cysylltiadau rhyngwladol drwy rannu gwybodaeth, adnoddau ac arferion gorau ym maes symudedd artistiaid rhwng gwledydd.

 

Ein gwaith ni

Mae Gwybodfan Celf y DU yn gynllun peilot, a’i nod yw datblygu adnoddau i helpu artistiaid rhyngwladol sy’n ymweld â’r DU am gyfleoedd creadigol ac i wneud gwaith creadigol. Rydyn ni’n cynnig cefnogaeth a gwybodaeth ymarferol, yn rhad ac am ddim, i helpu artistiaid, gweithwyr creadigol proffesiynol, a sefydliadau i ddeall y rheolau ac i arwain pobl drwy rai o’r gofynion gweinyddol sy’n gysylltiedig ag ymweliadau creadigol â’r DU.

Rydyn ni’n rhoi arweiniad ac yn helpu pobl i barhau i gydweithio, i achub ar gyfleoedd ac i gael profiadau rhyngwladol yn y sectorau diwylliannol. Rydyn ni’n rhoi un man canolog ar gyfer rhannu gwybodaeth ac adnoddau ymarferol.

Rydyn ni’n rhoi gwybodaeth ac arweiniad i’r canlynol:

  • artistiaid a chwmnïau rhyngwladol sy’n dod i’r DU
  • lleoliadau a chwmnïau yn y DU sydd am wahodd a chroesawu ymwelwyr creadigol rhyngwladol


Gallai hyn olygu grwpiau, cwmnïau neu unigolion sy’n ymweld â’r DU i gymryd rhan mewn:

  • gwyliau
  • perfformiadau neu deithiau
  • cyfnodau preswyl
  • arddangosfeydd
  • digwyddiadau rhwydweithio neu gynadleddau

Yn ogystal â rhoi gwybodaeth, rydyn ni’n awyddus i ddeall yr heriau sy’n wynebu artistiaid rhyngwladol a chwmnïau o’r DU sy’n eu gwahodd, a hynny er mwyn sicrhau ein bod ni’n cynnig y math iawn o gymorth ac i’n helpu i eirioli ar ran y sector celfyddydau lle gallwn ni. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy ofyn am adborth pan fyddwn ni’n sgwrsio â’r sector, pan fyddwn ni’n cynnal digwyddiadau, a phan fyddwn ni’n ymwneud â rhanddeiliaid.

Fel menter beilot, mae ein hystod o adnoddau yn tyfu'n gyson. Gallwn helpu hefyd drwy rannu adnoddau perthnasol gan sefydliadau allanol, gan gynnwys gwybodaeth i bobl greadigol yn y DU sy’n gweithio’n rhyngwladol.

 

Ni ddylid ystyried cynnwys y wefan hon yn gyngor gyfreithiol a nid yw Gwybodfan Celf y DU yn gyfrifol am wybodaeth a ddarperir gan ddolenni trydydd parti y gallwch gael mynediad iddynt trwy ein gwefan.
Darllenwch ein Hymwadiad Cyfreithiol llawn yma.