Yn ddibynnol ar eich gwaith neu gweithgaredd yn y DU, mae’n bosibl eich bod chi’n ystydied dod â 'nwyddau masnachol' i’r DU. Pethau i'w gwerthu neu eitemau at bwrpas eich busnes yw nwyddau masnachol. Mae’r rhain yn cynnwys pethau fel celfweithiau a nwyddau yr hoffech werthu, neu propiau ac offer teithiol, offerynnau cerdd a chelfweithiau i’w harddangos. Efallai y bydd rhaid gwneud rhywfaint o gynllunio ychwanegol er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni gofynion tollau y DU, gan gynnwys sut y byddwch yn cludo eich nwyddau i’r DU (fel arfer gan bost, cerbyd neu halio), a beth sydd angen ei wneud wrth y ffin.

Y peth cyntaf i’w wneud yw gwirio a oes angen datgan nwyddau rydych yn dod â nhw yma neu fynd â nhw oddi yma ar wefan Llywodraeth y DU. Efallai y bydd rhaid ichi dalu tollau treth (sef math o dreth i’w dalu i Lywodraeth y DU) yn ogystal â Threth ar Werth.

Lle’n bosibl, gallwch osgoi dod â nwyddau masnachol yma drwy drefnu dod o hyd i bethau angenrheidiol pan fyddwch yn cyrraedd y DU. Er enghraifft, efallai y hoffech weithio gyda’ch partneriaid yn y DU i drefnu cael propiau ar gyfer berfformiad theatr.

Efallai y bydd prosesau gwahanol rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban) o ran symud nwyddau. Gallwch ddysgu fwy am y prosesau hynny wrth ddarllen canllawiau Llywodraeth y DU.

Rhai pethau y dylech ystyried yw:

Ydych yn dod â nwyddau'n barhaol i Brydain, er enghraifft i'w gwerthu?

 

Gweler cyflwyniad byr ar dudalen 'Symud nwyddau'n narhaol i'r DU' isod.

 

Ydych yn dod â nwyddau dros dro yma, er enghraifft at ddibenion teithio?

 

Gweler cyflwyniad byr ar dudalen 'Symud nwyddau dros dro i'r DU' isod.

 

Fydd arnoch angen Rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (EORI)?

 

Mae EORI yn rhif cofrestru ac adnabod penodol ar gyfer mewnforio ac allforio nwyddau i’r UE ac oddi yno.

Dewch o hyd i wybodaeth bellach ar rifau EORI ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd yma.

 

Fydd arnoch angen tystysgrif CITES, a ble y gallwch ei datgan?

 

Mae Tystysgrif CITES (Confensiwn ar Fasnach Ryngwladol o Rywogaethau Ffawna a Fflora Gwyllt sydd mewn Peryg) yn gytundeb rhyngwladol er mwyn rheoli mewnforio ac allforio eitemau sydd yn cynnwys rhywogaethau mewn peryg.

Dysgwch fwy am Dystysgrifau CITES are wefan Llywodraeth y DU yma.
 

Mae PEARLE a Ffederasiwn Rhyngwladol Cerddorion (FIM) wedi datblygu holiadur ar-lein er mwyn i chi gwirio a oes angen tystysgrif CITES arnoch.
Ewch i'r holiadur yma.

Dysgwch fwy am leoedd cyrraedd ac ymadael o ran CITES ar wefan Llywodraeth y DU yma.

 

Fydd rheolau masnach arforol yn effeithio ar eich taith?

 

Cyllid a Thollau EM (CThEM) yw'r adran o’r Llywodraeth sy'n ymdrin â mewnforio ac allforio.

Cysylltwch â nhw ar eu gwefan yma.