Talu trethi am waith a wnewch am dâl yn y DU

A chithau’n artist rhyngwladol sy’n ymweld â’r DU i wneud gwaith am dâl, rydych chi’n gyfrifol am dalu trethi ar yr hyn y byddwch chi’n ei ennill mewn perthynas â’ch perfformiadau yn y DU, a hynny fel rhan o’r Rheolau Treth i Ddiddanwyr Tramor.

Os byddwch chi’n cael eich talu mwy na throthwy’r lwfans treth personol yn y DU gan sefydliad sy’n eich cynnal yn y DU, bydd y sefydliad sy’n eich cynnal yn didynnu’r dreth ymlaen llaw, ac yn ei thalu’n uniongyrchol i Gyllid a Thollau EM. Bydd hyn gan amlaf ar sail cyfradd sylfaenol treth incwm. Byddwch chi’n cael tystysgrif didynnu treth FEU2 gan y sawl sy’n eich talu. Bydd hyn yn dangos y dreth sydd wedi’i didynnu o’r taliad. Trothwy presennol y lwfans treth personol yw 12,570 GBP.

Mae trefniadau’n bodoli i’ch diogelu rhag y risg o dalu treth ar eich enillion mewn dwy wlad. Cytuniadau Trethiant Dwbl yw enw’r cytundebau hyn, ac maen nhw’n bodoli rhwng y DU a sawl gwlad ledled y byd.
Mae rhagor o wybodaeth, a rhestr o’r cytuniadau treth sy’n bodoli, i’w gweld ar wefan Llywodraeth y DU fan hyn.

Fe all trethi fod yn gymhleth, a dylech ofyn am gyngor proffesiynol os bydd angen hynny arnoch. Mae rhagor o wybodaeth am drethi ar gael drwy wefan Llywodraeth y DU fan hyn.
Fe all artistiaid nad ydyn nhw'n byw yn y DU hefyd gysylltu â’r Uned Diddanwyr Tramor yn uniongyrchol fan hyn.

 

Nawdd Cymdeithasol

Os ydych chi’n dod o’r UE gan gynnwys Iwerddon, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu’r Swistir ac yn gweithio yn y DU, mae protocol nawdd cymdeithasol yn bodoli fel nad yw’r rheini sy’n ymweld â’r DU er mwyn gwneud gwaith am dâl yn talu cyfraniadau nawdd cymdeithasol ddwywaith (yn y wlad lle maen nhw’n byw ac yn y DU). Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y gallwch chi barhau i dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn y wlad lle rydych chi’n byw. Dylech gysylltu â’r sefydliad nawdd cymdeithasol yn y wlad lle rydych chi’n byw i ganfod a allwch chi wneud cais am dystysgrif i ddangos bod angen ichi dalu nawdd cymdeithasol yn y fan honno.
Mae rhagor o wybodaeth am nawdd cymdeithasol ar wefan Llywodraeth y DU fan hyn.

Mae gan y DU drefniadau hefyd ar gyfer protocol nawdd cymdeithasol gyda gwledydd eraill y tu allan i’r UE gan gynnwys Iwerddon, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu’r Swistir. 
Fe allwch chi ganfod pa wledydd sydd â chytundebau â’r DU ar wefan Llywodraeth y DU fan hyn.