Cynhaliwyd y sesiwn yma ar 30-01-2024

Fel rhan o gynlluniau’r llywodraeth i gryfhau a digideiddio ffin y DU, mae llywodraeth y DU wedi lansio cynllun Awdurdodi Teithio Electronig (ETA).

Yn y sesiwn ymunodd swyddogion Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU â ni a rhoddwyd trosolwg o’r cynllun, ar bwy y mae’n effeithio, sut y mae’n gweithio, ac yna gorffen gyda sesiwn cwestiwn ac ateb.

Unwaith y bydd y cynllun ETA wedi’i roi ar waith yn llawn, bydd yn berthnasol i ymwelwyr â’r DU nad oes angen fisa arnynt ar gyfer arosiadau o lain a chwe mis, neu nad oes ganddynt statws mewnfudo dilys yn y DU cyn teithio. Bydd angen ETAs hefyd ar rai sy’n ceisio mynediad o dan y consesiwn gweithiwr creadigol Haen 5 cyn iddynt deithio i’r DU.

Gofynnwyd y cwestiynau yn y sesiwn drwy’r tab sgwrsio neu drwy godi llaw.

 

C: Os ydw i’n dod i’r Deyrnas Unedig drwy’r llwybrau Ymrwymiad Taledig a Ganiateir, Gwyliau Di-drwydded neu Fisa Gweithiwr Creadigol (y llwybr consesiynol) ac felly’n cael fy nhalu i weithio yn y Deyrnas Unedig, e.e. i deithio, a oes angen i mi wneud cais am ETA o hyd?

A: Os ydych chi’n wladolyn di-fisa sy’n dod i’r Deyrnas Unedig drwy’r llwybr Ymrwymiad Taledig a Ganiateir, drwy’r rhestr Gwyliau Di-drwydded, neu drwy gonsesiwn fisa Gweithiwr Creadigol, bydd angen i chi wneud cais am ETA yn dal i fod i deithio i’r Deyrnas Unedig, ar ôl i’r cynllun gael ei gyflwyno ar gyfer eich cenedligrwydd chi.

 

C: Pan fydd artistiaid rhyngwladol yn crybwyll yn eu cais am ETA eu bod yn dod i’r Deyrnas Unedig i weithio (e.e. drwy’r llwybrau Ymrwymiad Taledig a Ganiateir, Gwyliau Di-drwydded neu gonsesiwn Gweithiwr Creadigol), mae pryder y gwrthodir ETA iddyn nhw’n awtomatig. A yw hynny’n wir?

A: Nid yw rheswm rhywun dros deithio yn rhan o’r broses o wneud penderfyniad ar gais, ac nid yw’r cais am ETA yn cofnodi manylion ynghylch rheswm yr ymgeisydd dros deithio.

Mae’r cais ei hun yn gyflym a diffwdan ac yn cael ei wneud ar-lein. Bydd angen i unigolion ddarparu data bywgraffyddol a biometrig, ac ateb cyfres fer o gwestiynau am eu haddasrwydd, er mwyn gallu cynnal archwiliadau diogelwch. Bydd hyn yn golygu bod modd gwneud penderfyniadau yn gynharach, gyda gwell gwybodaeth, ynghylch a ddylai unigolion gael teithio i’r Deyrnas Unedig.

Er mwyn gwrthod cais am ETA, rhaid i’r ymgeisydd fethu â bodloni’r gofynion ar gyfer addasrwydd a geir yn Immigration Rules - Immigration Rules Appendix Electronic Travel Authorisation - Guidance - GOV.UK (www.gov.uk).

Os rhoddir ETA, bydd yn ddilys ar gyfer teithiau niferus dros y cyfnod y bydd yr ETA yn ddilys, sef dwy flynedd, neu tan y dyddiad y daw’r pasbort a ddefnyddiwyd i wneud y cais i ben, os yw hwnnw’n gynt. 

Rhoi caniatâd i deithio y mae ETA, ac nid yw’n rhoi caniatâd i ddod i mewn i’r wlad. Bydd rhaid cael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig wrth gyrraedd, naill ai gan un o Swyddogion Llu’r Ffiniau, neu wrth fynd drwy e-gât os bydd pobl yn gymwys i ddefnyddio’r rheini.

Rhaid i chi fodloni amodau’r llwybr rydych chi’n ei ddefnyddio i geisio dod i mewn i’r Deyrnas Unedig (e.e. Ymrwymiad Taledig a Ganiateir neu gonsesiwn Gweithiwr Creadigol), gan gynnwys y gofyniad i gael ETA i deithio pan fydd y cynllun yn cael ei gyflwyno’n llawn.

 

C: Sut y bydd hyn yn gweithio i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sydd â statws preswylwyr sefydlog yn y Deyrnas Unedig? Rwy’n deall nad oes angen iddyn nhw wneud cais am ETA, ond sut y bydd y system yn gwybod beth yw eu statws?

A: Does dim angen ETA ar y rheini sydd eisoes â statws mewnfudo yn y Deyrnas Unedig fel EUSS (statws preswylwyr sefydlog i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd). Eu statws EUSS fydd eu ‘caniatâd i deithio’.  

Er mwyn i’r caniatâd cyffredinol i deithio weithio’n effeithiol (gan gynnwys y cynllun ETA), bydd gofyn i gludwyr wirio a chadarnhau bod gan unigolion ganiatâd cyn iddyn nhw deithio. 

Bydd cludwyr yn rhoi gwybodaeth ymlaen llaw am deithwyr i’r Swyddfa Gartref, ac yn eu tro’n cael cadarnhad gan y Swyddfa Gartref naill ai bod gan bob unigolyn ganiatâd a bod modd eu cludo i’r Deyrnas Unedig; nad oes ganddyn nhw ganiatâd ac na ellir eu cludo; neu bod angen i’r cludwr bennu a oes caniatâd. 

I’r rheini sydd â statws preswylwyr cyn-sefydlog neu sefydlog o dan EUSS, bydd cofnodion y Swyddfa Gartref yn rhoi cadarnhad i’r cludwr pan fydd caniatâd.

 

C: Os oes gennych chi statws sefydlog yn y Deyrnas Unedig o dan gynllun statws sefydlog yr Undeb Ewropeaidd, ond eich bod chi’n pryderu na fydd y system yn eich adnabod, a ddylech chi wneud cais am ETA hefyd rhag ofn?

A: Does dim angen i’r rheini sydd eisoes â statws mewnfudo yn y Deyrnas Unedig fel EUSS neu ILR gael ETA. Eu statws EUSS fydd eu ‘caniatâd i deithio’.  

Wrth deithio i’r Deyrnas Unedig neu o’r Deyrnas Unedig, dylai unigolion sydd â statws o dan EUSS deithio gyda’r pasbort sydd wedi’i gofrestru ar eu cyfrif Fisâu a Mewnfudo’r Deyrnas Unedig (UKVI). Mae hyn er mwyn sicrhau bod modd defnyddio’u dogfen deithio i ganfod eu statws yn rhwydd.

Mae’r gwasanaeth i ddiweddaru manylion (UMD) yn wasanaeth ar-lein sydd ar gael i ymgeiswyr yr EUSS sydd wedi cael statws ac sydd â chyfrif UKVI. Mae hyn yn eu galluogi i ddiweddaru eu manylion personol, fel eu henw a’u cenedligrwydd. Mae’r gwasanaeth hwn hefyd yn galluogi unigolion i ddiweddaru eu manylion mewngofnodi a’u dogfennau adnabod, fel eu pasbort, eu cerdyn adnabod neu’u dogfen deithio - Update your UK Visas and Immigration account details: Overview - GOV.UK (www.gov.uk).

Rhaid i unigolion sicrhau eu bod nhw’n diweddaru eu statws ar-lein gyda’r holl ddogfennau teithio dilys sydd ganddyn nhw ac y maen nhw’n bwriadu’u defnyddio i deithio (fel pasbortau neu gardiau adnabod cenedlaethol), er mwyn osgoi trafferthion wrth fyrddio ac osgoi oedi diangen ar y ffin.

 

C: A fydd y system wedi’i chyflwyno’n llawn erbyn diwedd 2024 i bob cenedligrwydd, neu a oes disgwyl i bethau gymryd mwy o amser? Mae hyn er mwyn rhoi cyngor i artistiaid sy’n dod yma yn y 12-18 mis nesaf.

A: Rhaid i wladolion Qatar sy’n ceisio ymweld â’r Deyrnas Unedig gael ETA bellach. Y gwledydd nesaf i ddod yn rhan o gynllun ETA fydd Bahrain, Jordan, Kuwait, Oman, a’r Emiradau Arabaidd Unedig, a gallan nhw wneud cais o 1 Chwefror 2024.

Bydd cynllun ETA yn parhau i gael ei gyflwyno’n raddol i wladolion y gwledydd eraill di-fisa drwy gydol 2024.

Byddwn ni’n rhoi rhagor o fanylion am y drefn ar gyfer cyflwyno’r cynllun ETA i wledydd eraill maes o law, ac yn rhoi digon o rybudd er mwyn galluogi teithwyr i baratoi at y newid hwn.

 

C: Does gen i ddim cyfenw ar fy mhasbort (dim ond un enw cyfreithiol). Gan fod y cyfenw yn faes gorfodol ar ffurflenni ar-lein, beth ddylwn i ei roi yn y maes hwnnw er mwyn iddyn nhw allu prosesu fy ETA yn awtomatig?

A: Mae proses ymgeisio ETA wedi’i dylunio gyda chonfensiynau enwi byd-eang mewn golwg, ac mae’n cydnabod na fydd gan rai pobl enw bedydd a chyfenw.

Pan fyddwch chi’n gwneud cais am ETA, bydd angen i chi gymryd ffotograff o’r manylion yn eich pasbort. Byddwn ni’n darllen eich enw fel y mae’n ymddangos yn y rhan y gall peiriant ei darllen (MRZ) ar eich pasbort. Mae hyn yn gweithio i bobl sydd â dim ond un enw cyfreithiol. Os bydd y darlleniad awtomatig yn anghywir, a bod angen i chi olygu eich un enw cyfreithiol, yna rhowch hwnnw yn y maes cyfenw.

Er gwybodaeth: I helpu gyda’r broses ymgeisio, mae’r Swyddfa Gartref wedi creu fideo sy’n rhoi cyfarwyddiadau cam wrth gam gyda sylwadau gan aelodau Grwpiau Cynghori’r Swyddfa Gartref, ac mae hwn ar gael yn GOV.UK.

Gall y rheini sy’n cael trafferthion wrth gwblhau’r broses ymgeisio lenwi ffurflen ar y we ar GOV.UK i gael cymorth.

 

C: Rwy’n wladolyn fisa / di-fisa sy’n byw yn gyfreithiol yng Ngweriniaeth Iwerddon. A fydd angen ETA arna’ i er mwyn teithio i Ogledd Iwerddon?

A: Nid yw’r gofynion teithio i wladolion fisa wedi newid. Os bydd eich cenedligrwydd gan amlaf yn gofyn am fisa i ymweld â’r Deyrnas Unedig, bydd angen i chi wneud cais am fisa cyn i chi deithio i’r Deyrnas Unedig, sy’n cynnwys Gogledd Iwerddon.  Dylech gadarnhau beth yw’r gofynion teithio ar gyfer eich cenedligrwydd chi ac a oes angen fisa i ddod i’r Deyrnas Unedig, a hynny fan hyn:  Check if you need a UK visa - GOV.UK (www.gov.uk)

Mae’r cynllun ETA yn berthnasol i wladolion di-fisa sy’n ymweld â’r Deyrnas Unedig neu sy’n tramwyo drwy’r Deyrnas Unedig, ac sydd heb statws mewnfudo dilys yn y Deyrnas Unedig cyn teithio.

Serch hynny, mae gwladolion di-fisa sy’n preswylio’n gyfreithlon yn Iwerddon wedi’u heithrio o’r gofyniad i gael ETA wrth deithio i’r Deyrnas Unedig o rywle arall yn yr Ardal Deithio Gyffredin (CTA).

Er mwyn manteisio ar yr eithriad ar gyfer teithio yn yr Ardal Deithio Gyffredin, bydd angen i breswylwyr ddangos tystiolaeth sy’n cadarnhau eu bod yn preswylio’n gyfreithlon yn Iwerddon. Mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi canllawiau am y dystiolaeth sy’n dderbyniol: Electronic travel authorisation: Irish resident exemption (accessible) - GOV.UK (www.gov.uk).

Os byddwch chi’n teithio i’r Deyrnas Unedig o’r tu allan i’r Ardal Deithio Gyffredin, bydd angen ETA ar wladolion di-fisa sy’n preswylio’n gyfreithlon yn Iwerddon.

 

C: Rwy’n ymwelydd twristaidd (h.y. sydd dim yn preswylio’n gyfreithlon yng Ngweriniaeth Iwerddon) ond yn teithio o Weriniaeth Iwerddon i Ogledd Iwerddon. A fydd angen ETA arna’ i, hyd yn oed os nad oes archwiliadau corfforol ar y ffin?

A: Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal wedi ymrwymo i Gytundeb Belfast (Gwener y Groglith) ac felly mae wedi ymrwymo i sicrhau nad oes ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon.  

Ar hyn o bryd, nid oes gan y Deyrnas Unedig gamau rheoli mewnfudo rheolaidd ar gyfer siwrneiau oddi mewn i’r Ardal Deithio Gyffredin, ac nid oes camau rheoli mewnfudo o gwbl ar y ffin ar y tir rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon. 

Serch hynny, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd, bydd unigolion sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig, gan gynnwys y rheini sy’n croesi’r ffin i Ogledd Iwerddon, yn gorfod dod i mewn yn unol â fframwaith mewnfudo’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys y gofyniad i gael ETA.

Eisoes, mae gofyn i wladolion fisa gael fisa ar gyfer y Deyrnas Unedig wrth deithio drwy Iwerddon, er mwyn dod i mewn i’r Deyrnas Unedig yn gyfreithlon. Dyma ofyniad sydd wedi’i sefydlu ers tro, ac rydyn ni’n syml yn ymestyn yr un egwyddor i gynnwys unigolion y mae angen ETA arnyn nhw. 

Pan fydd gwlad wedi dod yn rhan o’r cynllun ETA, bydd yn rhaid i wladolion y wlad honno gael ETA wrth ymweld â’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys pan fyddan nhw’n dod i mewn i’r Deyrnas Unedig drwy groesi’r ffin ar y tir i Ogledd Iwerddon drwy Iwerddon.

 

C: A allwch chi gadarnhau am ba mor hir y gall artist o Ewrop deithio i’r Deyrnas Unedig gydag ETA? Rwy’n chwilio am gyd-destun ar gyfer preswylfeydd artistiaid – h.y. pa lwybr fyddai artist yn ei gymryd pe bai’n dod i’r Deyrnas Unedig ar gyfer preswylfa artist tri mis, gyda thâl?

A: Mae modd i artistiaid ddefnyddio’r llwybr Gwaith Dros Dro – Gweithiwr Creadigol os oes ganddyn nhw dystysgrif nawdd gan noddwr cofrestredig. Os ydyn nhw’n dod am hyd at dri mis, gallan nhw ddefnyddio’r consesiwn fisa ar gyfer Gweithwyr Creadigol ac nid oes angen iddyn nhw wneud cais am fisa cyn dod i’r Deyrnas Unedig os ydyn nhw’n wladolion di-fisa ac os oes ganddyn nhw ETA.

Os ydyn nhw eisiau dod yma am fwy na thri mis, gallan nhw wneud cais am fisa cyn teithio i’r Deyrnas Unedig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael fan hyn: https://www.gov.uk/creative-worker-visa.

 

C: Ers gadael yr Undeb Ewropeaidd, beth yw amseroedd prosesu dogfennau sy’n ymwneud â gweinyddu trawsffiniol, e.e. ffurflenni A1 y fisa?  Mae’r cyflwyniad yn dweud y bydd ceisiadau ETA yn cael eu prosesu mewn 3 diwrnod. Pa mor ymarferol yw hyn?

A: Bydd ymgeiswyr gan amlaf yn cael penderfyniad o fewn 3 diwrnod gwaith: bydd llawer o gwsmeriaid yn cael canlyniad yn gynt.

Gall y penderfyniad ar y cais gymryd hwy os bydd angen i ni wneud rhagor o archwiliadau. 

 

C: Os bydd eich cais yn cael ei wrthod, mae’r cyflwyniad yn dweud nad oes gennych chi hawl i apelio a bod yn rhaid gwneud cais am y fisa perthnasol yn lle hynny.  A fyddwch chi’n cael gwybod y rheswm dros wrthod, a phryd y bydd modd i chi wneud cais eto?

A: Os bydd ymgeisydd yn cael ei wrthod, bydd yn cael hysbysiad ysgrifenedig a fydd yn rhoi’r rhesymau dros hynny.

Os penderfynir nad yw pobl yn addas i gael ETA, gallan nhw wneud cais am fisa ymwelwyr o hyd, a fydd yn golygu ystyried eu hamgylchiadau’n fwy trylwyr, os ydyn nhw’n dymuno teithio i’r Deyrnas Unedig o hyd. 

Nid oes hawl i apelio nac i gael adolygiad gweinyddol o benderfyniad i wrthod rhoi ETA.