Y Swyddfa Gartref yw’r adran yn Llywodraeth y DU sy’n gofalu am ddiogelwch ffiniau. Mae hyn yn cynnwys y system fewnfudo – mae fisâu yn rhan o’r system honno. Mae system fewnfudo’r DU ar gyfer dinasyddion o’r tu allan i’r DU sy’n dod i weithio yn y DU yn system sydd wedi’i seilio ar bwyntiau. Bydd gwefan y Swyddfa Gartref yn eich helpu i ddeall y mathau o fisâu sydd ar gael ar gyfer eich ymweliad â’r DU. Man cychwyn da yw gwirio a yw eich cenedligrwydd yn ei gwneud yn ofynnol ichi wneud cais am fisa i ymweld â’r DU. Fe allwch chi wneud hyn drwy’r ddolen isod. Fe allwch chi hefyd ymweld â thudalen bwrpasol Llywodraeth y DU i Weithwyr Creadigol Proffesiynol. Ar hyn o bryd, mae’r pwyslais ar wladolion sydd heb fisa ac sy’n ymweld â’r DU. Cadwch olwg yn rheolaidd, gan fod y dudalen yn cael ei datblygu a’i diweddaru.