Cofrestrwch ar gyfer Boreau Coffi Gwybodfan Celf y DU yma.

Ein bore coffi nesaf yw:

9:30am BST | 14 Tachwedd 2023

Pwnc: Myfyrio ar deithio ac arddangos dros yr haf

Ein cyfrannwyr Gwadd nesaf yw: 

Megan Maw (Cydlynydd Cynhyrchu gyda chwmni Aakash Odedra)

David Drake (Gyd-Gyfarwyddwr Oriel Caerbladon)

 

Ydych chi wedi bod yn teithio neu yn arddangos yn rhyngwladol eleni? Mae’r sesiwn hon yn gyfle i wirio a myfyrio ar sut mae’r teithiau ac arddangosiadau wedi bod yn mynd, a rhannu profiadau a heriau rydych chi wedi’u hwynebu. Efallai y bydd gennych rai cwestiynau yr hoffech ofyn am waith rhyngwladol yr ydych yn ei gynllunio? Byddwn yn clywed am brofiadau ym maes celfyddydau gweledol a pherfformio gan ein cyfranwyr.

 

Mae Megan wedi gweithio gyda chwmni Aakash Odera o fewn sawl rôl cynhyrchu amrywiol ers 2022. Bellach yn rheoli’r adran, mae’n cynhyrchu teithiau cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer gweithiau megis Samsara, Little Murmur, a’r prif gynhyrchiad llwyfan newydd Mehek. Fel tîm clos, mae Megan yn gweithio ochr yn ochr â thimau cyfranogiad a hyfforddiant, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar werthusiad ac adroddiad ar gyfer prosiect Mehek Live a dderbyniodd Grant Prosiect o Arwyddocâd Cenedlaethol. Mae Mehek Live yn rhaglen gymunedol o dros 400 o henoed yn Belgrave, Caerlŷr, syn cynnig mynediad at ddawns a cherddoriaeth ac yn cymryd ysbrydoliaeth ou profiadau bywyd o gariad a cholled iw hymgorffori ym Mehek, cyn ei berfformiad cyntaf yn 2024. Gan weithio fel gweithiwr creadigol proffesiynol llawrydd, mae Megan wedi cyflwyno sioeau a digwyddiadau amrywiol ar draw Swydd Gaerlŷr a Swydd Efrog, sef o ble mae hin dod yn wreiddiol. Mae gan Megan BA mewn Rheoli Celfyddydau a Gwyliau o Brifysgol De Montfort, a dyna le y dechreuodd ei chysylltiad â rhwydwaith celfyddydol a diwylliannol Caerlŷr. Bydd Megan yn rhannu ei phrofiadau, myfyrdodau a chyngor gyda ni am weinyddiaeth teithiau perfformio. Bur cwmni ar daith yn y DU, Ffrainc, yr Eidal, India, Canada, America, China ac Iwerddon  yn ddiweddar.

 

Mae gan David Drake dros 35 mlynedd o brofiad rhyngwladol yn y sector celfyddydau gweledol a’r cyfryngau yn rheoli sefydliadau ac fel curadur annibynnol. Fel cyn gyfarwyddwr Ffotogallery, yr asiantaeth genedlaethol ar gyfer ffotograffiaeth a chyfryngau lens yng Nghaerdydd, bu’n arwaith ar brosiect Ewrop Greadigol a ‘European Prosects’ yn ogystal â Gŵyl Ffotograffiaeth Diffusion yng Nghaerdydd. Mae bellach yn gyd-gyfarwyddwr Oriel Caerbladon ym Malmesbury, sydd mewn partneriaeth a WOMAD, sydd yn ddiweddar wedi cael 3 arddangosfa ‘Global Carnival’ gan gynnwys gwaith y ffotograffydd Americanaidd o Baris, Jason Gardner. Fel curadur annibynnol mae David wedi bod yn gweithio yn Sbaen ac Oman yn ddiweddar. Bydd David yn ymuno a ni i siarad am ei brofiad o arddangos yn rhyngwladol, gan gynnwys yr heriau ychwanegol sy’n wynebu sefydliadau ac artistiaid o ran costau, gwaith papur ychwanegol a gwaith gweinyddol.

 

Dewch i wrando ar brofiadau pobl eraill yn ogystal â rhannu eich profiadau eich hun yng nghyd ag unrhyw tips rydych chi wedi dysgu ar hyd y ffordd. 

 

---

 

Yn agored i bob ffurf celfyddydol, gall ein boreau coffi ar-lein misol eich cysylltu ag artistiaid a sefydliadau creadigol eraill yn y DU i rannu heriau, cynlluniau ac uchelgeisiau sy'n rhan o weithio ar draws ffiniau. Bydd pob sesiwn yn cynnwys cyfraniadau gan bartneriaid a rhwydweithiau rydym yn gweithio gydag i rannu mewnwelediadau cyfredol a diweddariadau allweddol ynghylch symudedd rhyngwladol.

Fel arfer, cynhelir y boreau coffi ar-lein bob dydd Mawrth cyntaf y mis rhwng 09:30-10:30am GMT.

Bydd agenda pob sesiwn yn cael ei chreu gan yr hyn y byddwch chi a'r cyfrannwr gwadd yn dod i'r diwrnod: boed yn waith gweinyddol ar gyfer arddangosfeydd neu gynyrchiadau; cefnogi artistiaid i groesi ffiniau gyda rheolau mewnfudo newydd; neu'n syml i gysylltu ag eraill sy'n wynebu heriau tebyg. Ein nod yw creu rhwydwaith anffurfiol, cefnogol o gyfoedion â ffocws rhyngwladol.

Mae capsiynau awtomatig ar gael trwy gydol y sesiynau.