Cofrestrwch ar gyfer Boreau Coffi Gwybodfan Celf y DU yma.
Ein bore coffi nesaf yw:
9:30am GMT | 05 Rhagfyr 2023
Pwnc: Gwyliau Di-drwydded
Ein cyfranwyr gwadd nesaf yw: Tîm Ymweliadau, Fisa a Pholisi Masnach Ryngwladol, Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU
Ydych chi’n Ŵyl Di-drwydded neu â diddordeb gwneud cais am statws Gŵyl Di-drwydded?
Yn ein bore coffi ar-lein rhad ac am ddim nesaf, bydd Swyddogion Llywodraeth y DU o dîm Gwyliau Di-drwydded yn ymuno a ni. Bydd y tîm yn rhoi trosolwg o’r broses o wneud cais i fod yn Ŵyl Di-drwydded cyn y dyddiad cau nesaf ar gyfer Gwyliau Didrwydded. Bydd hefyd cyfle i ofyn cwestiynau i’r tîm.
Gall Gwyliau Di-drwydded wahodd diddanwyr neu artistiaid rhyngwladol i gymryd rhan yn eu gwyliau heb fod angen rhoi tystysgrif nawdd o dan y system seiliedig ar bwyntiau. Gellir talu’r perfformwyr yn eithriadol am gymryd rhan yn yr ŵyl o dan y llwybr Ymwelwyr Arferol.
Ymunwch a ni os oes gyda’ch gŵyl chi statws Di-drwydded yn barod er mwyn gallu rhannu gydag eraill eich profiad o hyn.
Mae’r gofynion i gael eich cynnwys ar restr o wyliau didrwydded fel a ganlyn;
· wedi’i sefydlu ers o leiaf 3 blynedd
· wedi cael cynulleidfa o leiaf 15,000 ar gyfer pob un o’r 3 gŵyl ddiwethaf
· cynulleidfa ddisgwyliedig o leiaf 15,000 drwy gydol y digwyddiadau sydd i ddod
· o leiaf 15 o berfformwyr nad ydyn yn Brydeinig neu Wyddelig sydd wedi perfformio ym mhob un o’r 3 gŵyl ddiwethaf
· o leiaf 15 o berfformiwyd nad ydynt yn Brydeinig neu Wyddelig sydd wedi’u gwahodd ar gyfer 2023 i 2024
Mae’r Tîm Ymweliadau, Fisa a Pholisi Masnach Ryngwladol yn arwain ar rheolau mewnfudo ar gyfer ymwelwyr, gan gynnwys y rhestr Gwyliau Di-Drwydded, ac agweddau cysylltiedig â mewnfudo ar fargeinion masnach y DU â gwledydd eraill.
Ymunwch â ni i glywed am y broses o wneud cais i fod yn ŵyl di-drwydded, rhannu eich profiadau a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am y broses ymgeisio neu unrhyw bryderon sydd gennych.
---
Yn agored i bob ffurf celfyddydol, gall ein boreau coffi ar-lein misol eich cysylltu ag artistiaid a sefydliadau creadigol eraill yn y DU i rannu heriau, cynlluniau ac uchelgeisiau sy'n rhan o weithio ar draws ffiniau. Bydd pob sesiwn yn cynnwys cyfraniadau gan bartneriaid a rhwydweithiau rydym yn gweithio gydag i rannu mewnwelediadau cyfredol a diweddariadau allweddol ynghylch symudedd rhyngwladol.
Fel arfer, cynhelir y boreau coffi ar-lein bob dydd Mawrth cyntaf y mis rhwng 09:30-10:30am GMT.
Bydd agenda pob sesiwn yn cael ei chreu gan yr hyn y byddwch chi a'r cyfrannwr gwadd yn dod i'r diwrnod: boed yn waith gweinyddol ar gyfer arddangosfeydd neu gynyrchiadau; cefnogi artistiaid i groesi ffiniau gyda rheolau mewnfudo newydd; neu'n syml i gysylltu ag eraill sy'n wynebu heriau tebyg. Ein nod yw creu rhwydwaith anffurfiol, cefnogol o gyfoedion â ffocws rhyngwladol.
Mae capsiynau awtomatig ar gael trwy gydol y sesiynau.