Cofrestrwch ar gyfer Boreau Coffi Gwybodfan Celf y DU yma

Ein bore coffi nesaf yw: 9:30am GMT | 23 Mai 2024 

Pwnc:  Sut gall artistiaid rhyngwladol baratoi ar gyfer tymor gwyliau y DU

Ein cyfranwyr gwadd nesaf yw:  

Rachel Downs, cynhyrhcydd arweiniol WOMEX 24    

Terry James, rheolwr cyffredinol Rock-it Cargo: Global Logistics Sepcialists.  

Mae tymor gwyliau’r DU ar ddechrau ac yn paratoi i groesawu artistiaid rhyngwladol. Oes gennych chi gynlluniau i berfformio mewn gŵyl yn y DU? Ydych chi’n teimlo’n barod ac wedi paratoi ar gyfer gweithio yn y DU?  

Mae’r sesiwn yma ar gyfer artistiaid i wrando ar gynhyrchwyr gwyliau profiadol am yr hyn maent wedi’i ddysgu wrth wahodd a chroesawu artistiaid rhyngwladol i wyliau yn y DU.   

Yn ymuno â ni fydd Rachel Downs,  cynhyrchydd arweiniol gyda WOMEX 24 ym Manceinion a chyn hynny bu’n gweltio yng Ngŵyl Rhyngwladol Manceinion. Bydd hi’n rhannu rhai awgrymiadau a’r hyn mae hi wedi dysgu o’i phrofiad ei hun o groesawu artistiaid rhyngwladol i wyliau y DU a beth i'w gofio wrth gynllunio’ch ymweliad.  

Dyma rai cwestiynau a phwyntiau i'w hystyried cyn ac yn ystod y sesiwn os ydych chi’n cymryd rhan mewn gŵyl yn y DU:  

  • Sut ydych chi’n dechrau cynllunio?  

  • Beth ydych chi’n ei wneud ar ôl derbyn cadarnhad eich bod yn perfformio mewn gŵyl?  

  • Pa gefnogaeth all yr ŵyl ei ddarparu ar eich cyfer?  

  • A oes unrhyw beth sydd angen i chi ystyried efallai nad ydych wedi meddwl amdano eto?  

  • Pa adnoddau ar-lein sydd ar gael i'ch helpu i gynllunio’ch ymweliad?   

Os ydych chi’n perfformio mewn gŵyl yn y DU eleni neu’n gobeithio dod yn y dyfodol bydd hwn yn gyfle defnyddiol i wirio eich cynlluniau a’r hyn sydd angen i chi ei wneud cyn dod i'r DU.   

Os ydych yn ŵyl sy’n gwahodd artistiaid rhyngwladol, neu efallai yn Ŵyl Didrwydded newydd, neu’n gynhyrchydd sy’n cefnogi artistiaid rhyngwladol i ddod i'r DU, ymunwch a ni i rannu eich profiadau yn y sesiwn gefnogol hon.     

Bydd cyfle ar ddiwedd y sesiwn i rannu profiadau a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych. Gallwch hefyd nodi unrhyw gwestiynau cyn y sesiwn pan fyddwch yn cofrestru neu drwy eu danfon yn uniongyrchol atom. 

 

--- 

  

Yn agored i bob ffurf celfyddydol, gall ein boreau coffi ar-lein misol eich cysylltu ag artistiaid a sefydliadau creadigol eraill yn y DU i rannu heriau, cynlluniau ac uchelgeisiau sy'n rhan o weithio ar draws ffiniau. Bydd pob sesiwn yn cynnwys cyfraniadau gan bartneriaid a rhwydweithiau rydym yn gweithio gydag i rannu mewnwelediadau cyfredol a diweddariadau allweddol ynghylch symudedd rhyngwladol. 

Fel arfer, cynhelir y boreau coffi ar-lein bob dydd Mawrth cyntaf y mis rhwng 09:30-10:30am GMT. 

Bydd agenda pob sesiwn yn cael ei chreu gan yr hyn y byddwch chi a'r cyfrannwr gwadd yn dod i'r diwrnod: boed yn waith gweinyddol ar gyfer arddangosfeydd neu gynyrchiadau; cefnogi artistiaid i groesi ffiniau gyda rheolau mewnfudo newydd; neu'n syml i gysylltu ag eraill sy'n wynebu heriau tebyg. Ein nod yw creu rhwydwaith anffurfiol, cefnogol o gyfoedion â ffocws rhyngwladol. 

Mae capsiynau awtomatig ar gael trwy gydol y sesiynau.