Mae Internationalen Gesellschaft der Bildenden Künste (Cymdeithas Rhyngwladol y Celfyddydau Cain), touring artists a Gwybodfan Celf y DU eisiau dod â celfyddydau gweledol yr Almaen a’r DU ynghyd! Os ydych chi'n artist, galerydd, sefydliad celfyddydau gweledol, neu hyd yn oed o'r sectorau diwylliannol eraill, dewch i'n digwyddiad ar-lein wrth i ni archwilio'r celfyddydau gweledol yn yr Almaen a'r DU.
17 Ebrill 2023
4:00-5:30pm BST / 5:00-6:30pm CET
Ar-lein trwy Zoom | Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma
Yn ystod y sesiwn, bydd sefydliadau allweddol yn cyflwyno’r strwythurau ariannu a chymorth sydd ar gael i'r sector celfyddydau gweledol yn yr Almaen ac ar draws pedair gwlad y DU. Bydd y sesiwn hefyd yn gyfle pwysig i chi gwrdd â’ch gilydd a rhwydweithio, ac i ofyn cwestiynau i’r cyflwynwyr.
Yn cyflwyno o'r DU bydd:
- Swyddogion celfyddydau gweledol Arts Council of England, Arts Council of Northern Ireland, Cyngor Celfyddydau Cymru a swyddog rhyngwladol Creative Scotland
- Rhwydweithiau celfyddydau gweledol y DU gan gynnwys CVAN (Rhwydwaith Celfyddydau Gweledol Cyfoes)
Yn cyflwyno o'r Almaen bydd:
- Daniel Lindenblatt o touring artists
- Cynrychiolydd o Internationalen Gesellschaft der Bildenden Künste
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Saesneg. touring artists sy'n cynnal y ffurflen gofrestru, a gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma.