Gwybodfan Celf y DU yn cyflwyno: Fisâu a rhwystrau eraill i artistiaid y DU sydd yn teithio'n rhyngwladol
Rhan o ddiwrnod #OnTrack PPL, PRS for Music a Sefydliad PRS yng ngŵyl The Great Escape
12:15 - 1:15pm GMT | 12 Mai 2023
Harbour Hotel (Ystafell Marine), 64 Kings Rd, Brighton BN1 1NA
Ychwanegwch y digwyddiad hwn at eich cynllunydd cynhadledd yr ŵyl yma
Gweler y digwyddiad ar wefan The Great Escape yma
Dros y tair blynedd diwethaf, trawsnewidiwyd teithio rhyngwladol nid yn unig gan y bandemig a Brexit, ond hefyd gan chwyddiant uchaf a welir erioed, aflonyddwch sifil mewn sawl rhan o'r byd, newidiadau trefn gwleidyddol, a rhyfel. Mae'r newidiadau cyson o gwmpas fisâu, trethi, a rheoliadau tollau yn achosi heriau mawr i artistiaid y DU sydd am deithio i'r UE, yr Unol Daleithiau a thu hwnt. Ymunwch â’r panel hwn o arbenigwyr ar gyfer taith symudedd artistiaid, wrth iddynt drafod profiadau artistiaid teithiol, a’r hyn sydd angen i chi ei wybod i deithio dramor.
Gyda gwesteion arbennig:
- Marie Fol, Arbenigwr Symudedd Diwylliannol, On The Move, Keychange (cyd-gymedrolwr)
-
Matthew Covey, Partner Covey Law a Sylfaenydd Tamizdat (cyd-gymedrolwr)
-
Skanda Sabbagh, Offerynnwr Taro (Prosiect Balimaya), Cynhyrchydd Cerddoriaeth, Addysgwr a Rheolwr Perthynas Arts Council England
-
Cils Williams, ATC Live
Cyflwynir gan Gwybodfan Celf y DU, On The Move, Tamizdat, British Underground, The Musicians’ Union, Sefydliad PRS, PPL a PRS for Music.
Mae PPL, PRS for Music a Sefydliad PRS Foundation yn ymuno â’i gilydd yn The Great Escape i gyflwyno rhaglen undydd llawn dop o rwydweithio, paneli a sesiynau cymorth i'w aelodau o dan faner #OnTrack, wrth iddynt feddianu'r Harbour Hotel yn Brighton ar ddydd Gwener 12 Mai. Mae'r digwyddiadau yn cychwyn am 9:30am gyda brecwast rhwydweithio, lle gwahoddir dirprwyon i gwrdd ag aelodau o dimau PPL, PRS for Music a Sefydliad PRS, cyn gorffen y diwrnod gyda Sgwrs PPL Sbardun a ariannwyd gan Ms Banks a’r rheolwr Maria Lane.
Mae Gwybodfan Celf y DU yn bartneriaeth rhwng 4 cyngor ac asiantaeth celfyddydau'r DU: Arts Council England, Arts Council of Northern Ireland, Creative Scotland a dan arweiniad Cyngor Celfyddydau Cymru / Celfyddydau Rhyngwladol Cymru